
Mae ein pwerau cyfreithiol unigryw yn ein caniatáu i newid bywydau pobl, a byddwn yn eu defnyddio’n fwy cadarn a deallus nag o’r blaen.
Amlyga’r adroddiad cryno hwn rai llwyddiannau a gawsom dros y flwyddyn a aeth heibio, gan arddangos y gwahaniaeth a wna’n gwaith.
Darllenwch am sut wnaethom ymateb yn gyflym i’r pandemig i helpu amddiffyn hawliau pobl. Dysgwch fwy am ein camau cyfreithiol, ein gwaith hawliau dynol a’n cyngor i lywodraeth.