Coronafirws (COVID-19) - diweddariad
Yn dilyn cyngor y llywodraeth i atal gwasgariad y coronafirws (COVID-19), mae pob un o’n swyddfeydd wedi’u cau ac mae staff bellach yn gweithio o’u cartrefi.
Yn ystod y cyfnod hwn ni fyddwn yn gallu casglu unrhyw bost a ddanfonwyd i’n swyddfeydd. Wnewch chi sicrhau y caiff unrhyw bost, a ddanfonwyd atom ni yn y saith diwrnod diwethaf, ac unrhyw ohebiaeth yn y dyfodol ei anfon atom drwy e-bost tan nes hysbysir fel arall:
- Gohebiaeth gyffredinol: correspondence@equalityhumanrights.com
- Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth: foi@equalityhumanrights.com
- Ceisiadau Diogelu Data: dp@equalityhumanrights.com
- Cwynion: complaints@equalityhumanrights.com
Os nad yw’r trefniadau dros dro hyn yn hygyrch i chi, cysylltwch â ni ar 0161 829 8327, gadewch neges ac fe wnawn eich galw’n ôl i drafod ffyrdd o wneud addasiadau.
Nod y polisi yw amlinellu rhwymedigaethau’r Comisiwn i gydymffurfio â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn rhoi hawl i bobl wneud cais ysgrifenedig am wybodaeth gan awdurdodau cyhoeddus. Ei bwriad yw hyrwyddo diwylliant ymysg cyrff sector cyhoeddus o fod yn agored ac yn atebol, a thrwy hynny alluogi’r cyhoedd i ddeall yn well sut y mae awdurdodau cyhoeddus yn cyflawni eu dyletswyddau, y rhesymau dros y penderfyniadau a gaiff eu gwneud ganddynt a sut maent yn gwario arian cyhoeddus.
Os hoffech y polisi neu ymateb i gŵyn mewn iaith arall neu fformat (fel Braille, Gryno Ddisg sain, print bras neu Hawdd i’w Ddarllen) cysylltwch a’n Huned Ohebiaeth.
I ganfod sut i wneud cais lawr lwythwch polisi rhyddid gwybodaeth.
Gallwch wneud cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth:
mewn e-bost at: foi@equalityhumanrights.com
yn ysgrifenedig i:
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Bloc 1 Cainc D, Adeiladau'r Llywodraeth
Heol Santes Agnes
Caerdydd
CF14 4YJ
Dogfennau cysylltiedig:
- FOI charging policy (Yn Saesneg)
- FOI Vexatious requests policy (Yn Saesneg)
Gweler hefyd:
Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Jan 2023