Mae’r adroddiad hwn yn adlewyrchu'r uchafbwyntiau a'r llwyddiannau a wnaed gan ein tîm Cymru rhwng 2020 a 2021, gan gynnwys:
- sicrhau bod Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus yn cydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED) yn ystod y pandemig
- dylanwadu ar strategaeth drafnidiaeth Llywodraeth Cymru fel y bo’n ateb anghenion pobl hŷn a phobl anabl, a
- gwneud yn siŵr bod y broses ar gyfer penderfynu graddau TGAU a Safon A yn ystod y pandemig yn deg.
Mae hefyd yn darparu gwybodaeth am aelodau cyfredol Pwyllgor Cymru sydd yn ein helpu i nodi blaenoriaethau strategol a chynghori ar effaith ein gwaith yng Nghymru.