Rhan o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yw’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol. Ei nod yw lleihau anghydraddoldeb i bobl sydd yn dioddef anfantais economaidd-gymdeithasol.
Mae’r adroddiad hwn yn bwrw golwg ar sut mae 24 o gyrff cyhoeddus yng Nghymru a’r Alban yn gweithredu neu’n paratoi i weithredu’r ddyletswydd.
Amlyga:
- sut all y ddyletswydd gael ei rhoi ar waith yn effeithiol
- y rhwystrau sydd yn ei tharfu
- sut mae’r ddyletswydd yn effeithio ar ymddygiad cyrff cyhoeddus
- y camau sydd eu hangen i sicrhau llwyddiant yn y dyfodol