Yr hyn ydym ni a sut i gysylltu â ni
www.equalityhumanrights.com yw safle a weithredir gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau dynol (”ni”).
Ymwelwch â’r dudalen cysylltwch â ni am fanylion o sut i gysylltu â ni.
Telerau defnyddio’r wefan
Dywed y telerau hyn wrthych y rheolau ar gyfer defnyddio’n gwefan www.equalityhumanrights.com. Drwy ddefnyddio’n safle, byddwch yn cadarnhau eich bod yn derbyn y telerau hyn ac yn cytuno i gydymffurfio â nhw. Os nad ydych yn cytuno â’r telerau hyn, peidiwch â defnyddio’n safle.
Ni yw corff cydraddoldeb cenedlaethol Prydain Fawr felly cyfeirir ein safle at bobl sydd yn byw ym Mhrydain Fawr (Lloegr, yr Alban a Chymru).
Efallai na fydd cynnwys sydd ar gael ar (neu drwy) ein safle ar gael nac yn briodol ar gyfer ei ddefnyddio mewn lleoliadau eraill.
Dylech edrych ar gyfreithiau lleol a gwneud yn siŵr nad ydych yn defnyddio’n safle mewn ffordd sydd yn mynd yn groes i unrhyw gyfreithiau cymwys.
Mae ein safle ar gael yn rhad ac am ddim ond byddwn:
- Efallai yn diweddaru, newid neu hepgor cynnwys ar unrhyw amser heb ddweud wrthych yn gyntaf
- Nid ydym yn gwarantu bydd ein safle, neu gynnwys, bob amser ar gael neu heb ei ymyrryd arno
- Efallai bydd rhaid i ni wahardd, tynnu’n ôl neu gyfyngu ar argaeledd - byddwn bob amser yn ymdrechu i roi rhybudd rhesymol i chi pan allwn
- Efallai’n newid y telerau hyn – edrychwch o bryd i’w gilydd i weld a wnaed unrhyw newidiadau.
Rydych yn cytuno i:
- ddefnyddio’n safle ar gyfer dibenion cyfreithlon
- defnyddio’n safle mewn ffordd nad yw’n amharu ar hawliau, neu gyfyngu neu wahardd defnydd neu fwynhad, y safle hwn gan rywun arall
- sicrhau bod unrhyw un sydd yn cael mynediad i’r safle drwy eich rhyngrwyd yn gwybod am ac yn cydymffurfio â’r rheolau hyn hefyd.
Edrychwch hefyd ar y canlynol sydd hefyd yn gymwys i’ch defnydd o’n safle:
- ein polisi preifatrwydd
- ein polisi cwcis, sydd yn gosod gwybodaeth am y cwcis ar ein safle.
Ailddefnyddio’n gwybodaeth
Ni yw perchennog y rhan fwyaf o gynnwys ein safle. Os oes unrhyw gynnwys mae eraill yn ei berchen, byddwn fel arfer yn rhoi’r clod i’r awdur neu ddaliwr hawlfraint.
Anogwn ailddefnyddio’n gwybodaeth ond:
- peidiwch â newid y cynnwys mewn unrhyw fodd
- gwnewch yn glir pwy yw’r awdur/perchennog
- os ydych yn defnyddio’r wybodaeth ar gyfer unrhyw beth arall na defnydd personol, cysylltwch â ni i wirio’i fod yn iawn i chi wneud hynny (gweler isod).
Nid ni sydd biau gwefannau na ddefnyddion sydd yn defnyddio’n cynnwys yn eu llifoedd ac efallai byddant yn defnyddio fersiynau o’n cynnwys sydd wedi’i olygu a’i storio ar gyfer ei ddefnyddio’n ddiweddarach (‘wedi’i storio’). Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd i’n gwefan yn uniongyrchol ar gyfer y cynnwys mwyaf diweddaraf.
Os ydych am ddefnyddio’n cynnwys ar gyfer eich defnydd personol, nid oes angen i chi roi gwybod i ni sut rydych yn ei ailddefnyddio.
Fodd bynnag, os ydych am ddefnyddio’n gwybodaeth mewn unrhyw fodd arall, cysylltwch â ni drwy lenwi’r ffurflen gais (65KB, dogfen Word) a’i dychwelyd atom drwy anfon e-bost at ein tîm gohebu.
Gellir gwneud ceisiadau yn ysgrifenedig i:
Correspondence Unit
Equality and Human Rights Commission
Arndale House
The Arndale Centre
Manchester
M4 3AQ
Byddwn yn ymateb i bob cais cyn pen 20 diwrnod gwaith. Os ydych am gwyno am y modd y cafodd eich cais ei drin neu am adolygiad o’r penderfyniad a wnaed yn ymwneud â’ch cais, ysgrifennwch at y cyfeiriad uchod neu anfonwch e-bost i’n tîm gohebu.
Dolenni i wefannau eraill
Pan fo’n safle yn cynnwys dolenni i safleoedd ac adnoddau eraill, darperir y dolenni hyn yn unig ar gyfer rhoi gwybodaeth i chi.
Ni ddylai dolenni o’r fath gael eu dehongli fel cymeradwyaeth gennym ni o’r gwefannau hynny a gysylltwyd â nhw na’r wybodaeth arnyn nhw.
Nid oes gennym reolaeth dros gynnwys y safleoedd hynny na’r adnoddau ac nid ydym yn gyfrifol am:
- ddiogelwch unrhyw wybodaeth y rhowch i’r gwefannau hyn
- unrhyw golled neu ddifrod a allai ddod yn sgil eich defnydd o’r gwefannau hyn, neu unrhyw wefannau eraill y maent yn cysylltu â nhw.
Dolenni i’n safle
Croesawn ac anogwn wefannau eraill sydd yn cysylltu â’n safle.
Fodd bynnag, gofynnwn na fyddwch yn:
- dweud neu’n awgrymu ein bod wedi cymeradwyo neu’n gysylltiedig â chi (oni bai i ni ddweud wrthych y gallwch)
- codi tâl ar ddefnyddwyr i gael mynediad i’r cynnwys neu glicio ar y ddolen
- fframio’n safle ar eich safle
- cysylltu’n gwefan â gwefan sydd yn wrthwynebol i’n gwerthoedd a’n nodau.
Gallem hepgor cynnwys a dolenni felly mae’n bwysig eich bod bob amser yn gwirio i sicrhau nad ydynt yn hen ffasiwn a’u bod yn gweithio.
Os ydych yn dymuno gwneud unrhyw ddefnydd i gynnwys ar ein safle heblaw am yr hyn a amlinellwyd uchod, llenwch y ffurflen ymholiadau cyffredinol.
Firysau, hacio a throseddau eraill
Gwnawn bob ymdrech i wirio a phrofi deunydd ym mhob cam y cynhyrchu, fodd bynnag nid ydym yn gwarantu bydd ein safle neu unrhyw gynnwys arno:
- bob amser ar gael neu heb ei darfu arno
- heb unrhyw gamgymeriadau neu hepgorion, neu
- bod yn ddiogel neu’n rhydd rhag bygiau na firysau.
Wrth ddefnyddio’n gwefan, byddwch:
- yn gyfrifol am gyflunio’ch technoleg gwybodaeth, rhaglenni cyfrifiadur a’r llwyfan i gael mynediad iddo
- dylech ddefnyddio’ch meddalwedd diogelu rhag firysau eich hunan
- rhaid i chi beidio â chyflwyno firysau, trojans, mwydon, bomiau rhesymeg nac unrhyw ddeunydd arall sydd yn faleisus neu’n niweidiol o ran technoleg
- rhaid i chi beidio â cheisio ennill mynediad heb ei awdurdodi i’n safle, y gweinydd y mae ein safle wedi’i storio arno nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sydd yn gysylltiedig â’n safle
- rhaid i chi beidio ag ymosod ar ein safle (gan gynnwys ymosodiad gwadiad-gwasanaeth).
Os wnewch ymosod ar ein safle neu geisio ennill mynediad heb ei awdurdodi, gwnawn eich riportio wrth yr awdurdodau gorfodi cyfraith berthnasol a rhannu’ch hunaniaeth â nhw.
Ymwadiad
Bwriedir ein safle i roi gwybodaeth gyffredinol i chi am ein gwaith a chanllaw am faterion cydraddoldeb a hawliau dynol.
Cyn gweithredu ar yr wybodaeth, dylech gael cyngor cyfreithiol proffesiynol neu gyngor arbenigol, wedi’i deilwra i’ch amgylchiadau unigol.
Er ein bod yn ymdrechu bod y wefan yn meddu ar y deunydd diweddaraf, nid ydym yn gwarantu, sicrhau neu amod y bydd y wefan neu’r wybodaeth arni:
- y deunydd mwyaf diweddar
- diogel
- cywir
- cyflawn
- heb fygiau neu firysau.
Atebolrwydd Cyfyngedig
Ni fyddwn yn atebol i chi am unrhyw golled neu ddifrod a allai ddod o ddefnyddio (neu heb allu defnyddio) ein gwefan neu ddibyniaeth ar y cynnwys. Mae hyn yn cynnwys:
- unrhyw golledion uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol
- unrhyw golled neu ddifrod wedi’i achosi gan gamweddau sifil (‘tort’, gan gynnwys esgeulustod), torri contract neu fel arall
- defnydd o’n gwefannau ac unrhyw wefannau sydd yn gysylltiedig â neu oddi arni
- yr anallu i ddefnyddio’n gwefan ac unrhyw wefannau sydd yn gysylltiedig â neu oddi arni
Mae hyn yn cynnwys (ond nid yw gyfyngedig i) golled eich:
- incwm neu refeniw
- cyflog, budd-daliadau neu daliadau eraill
- busnes
- elw neu gontractau
- cyfle
- cynilion disgwyliedig
- data
- ewyllys da neu enw da
- eiddo go iawn
- eiddo annirweddol, gan gynnwys colled, llygredd neu niwed i ddata neu unrhyw system gyfrifiadur
- rheolaeth neu amser swyddfa wedi’i wastraffu
- unrhyw golled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol.
Rydym yn gwahardd pob amod, sicrhad, cynrychioliad neu delerau eraill a allai fod yn gymwys i’n safle neu unrhyw gynnwys arno.
Efallai byddwn o hyd yn atebol dros:
- farwolaeth neu anaf personol yn sgil ein hesgeulustod
- camgynrychioliad twyllodrus
- unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei wahardd neu gyfyngu o dan gyfraith gymwys.
Cyfraith gymwys
Caiff y telerau a’r amodau hyn eu llywodraethu gan a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr.
Bydd unrhyw anghydfod sydd gennych sydd yn ymwneud â’r telerau ac amodau hyn, neu eich defnydd o’n gwefan (boed yn gytundebol neu heb gytundeb), yn ddarostyngedig i awdurdod cyfyngol llysoedd Cymru a Lloegr.
Diweddarwyd ddiwethaf: 09 Jun 2021