Amdanom ni

Darganfod mwy amdanom ni a'n gwaith.

Amdanom ni

Ni yw rheolydd cydraddoldeb a hawliau dynol annibynnol Prydain. Rydym yn Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol 'statws A' achrededig y Cenhedloedd Unedig (NHRI).

Ein rôl yw gwneud y wlad yn lle tecach trwy orfodi a chynnal y deddfau sy'n diogelu hawl pawb i degwch, urddas a pharch.

Rydym yn gorfodi Deddf Cydraddoldeb 2010, sy’n ei gwneud yn anghyfreithlon i wahaniaethu yn erbyn neu aflonyddu ar unigolion ar sail y naw nodwedd warchodedig .

Mae ein gwaith yn cael ei lywio gan ymrwymiad i ragoriaeth mewn tystiolaeth ac arbenigedd.

Ni yw’r man galw cyntaf ar gyfer llunwyr polisi, cyrff sector cyhoeddus a busnesau sydd angen arweiniad awdurdodol ar gyfraith cydraddoldeb a hawliau dynol.

 

Ein hanes

Cawsom ein creu o ganlyniad i Ddeddf Cydraddoldeb 2006 .

Agorwyd ein drysau yn 2007, gan uno gwaith tri sefydliad cydraddoldeb blaenorol:

  • y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol (CRE)
  • y Comisiwn Hawliau Anabledd (CHA)
  • y Comisiwn Cyfle Cyfartal (EOC)

Sut gallwn ni helpu

Arweiniad

Chwiliwch ein harweiniad ar gydraddoldeb a hawliau dynol

Cysylltwch â ni am fater cyfreithiol

Cymorth i unigolion a gweithwyr cyfreithiol proffesiynol

Cyngor a chefnogaeth

Os credwch y gallech fod wedi cael eich trin yn annheg ac eisiau cyngor pellach, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) .

Gwasanaeth cynghori annibynnol yw EASS, nad yw'n cael ei weithredu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Ffôn: 0808 800 0082

Neu e-bostiwch gan ddefnyddio'r ffurflen gyswllt ar wefan EASS.
phone icon

Ffoniwch yr EASS ar:

0808 800 0082